Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Chwefror 2021
Amser:
09.15 -
12.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11055
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Darren Millar AS Jenny Rathbone AS Llyr Gruffydd AS |
Tystion: |
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Marie Brousseau-Navarro, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Jacob Ellis, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Heledd Morgan, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Shan Morgan, Llywodraeth Cymru Simon Brindle, Llywodraeth Cymru Andrew Charles, Llywodraeth Cymru Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Tim Buckle |
Staff y Pwyllgor: |
Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor, gan estyn croeso i Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, hefyd.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Darren Millar AS i’r Pwyllgor, yn dilyn y bleidlais a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ionawr 2021, a diolchodd i Angela Burns AS am ei gwaith ar y Pwyllgor.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2a Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Cyflwyniad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Ionawr 2021)
2b Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Ionawr 2021)
3 Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn dystiolaeth 9
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i’r rhwystrau rhag gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
4 Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn dystiolaeth 10
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i’r rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law, gan awgrymu meysydd yr oeddent yn dymuno gwneud argymhellion yn eu cylch yn yr adroddiad drafft.